Croeso i Gymdeithas Fudd Cymunedol Ysgol Cribyn!

Gôl ariannol

Neges gan y Pwyllgor

Dyma’r nod: Cyd-brynu Ysgol Cribyn a’i datblygu’n ofod eang, cysurus a hyblyg at ddefnydd bobol Cribyn a Dyffryn Aeron a’n, wir, Geredigion gyfan! Byddwn hefyd yn troi’r stafell ddosbarth fach (Ty’r Ysgol, gynt) yn gartref fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc, lleol.

5 Cam
Cyfranddaliadau
Hanes
Newyddion

Y Weledigaeth

Nawr nad oes gan Geredigion ddefnydd i’r adeilad, ma’ ‘da ni gyfle unwaith ac am byth i brynu’r ased arbennig hon er budd y gymdogaeth. Gair bach yw ‘cyd’ sydd hefyd yn un o’n geiriau mwyaf. Wrth gyd-brynu Ysgol Cribyn gallwn gyd-ddychmygu siwt mae ei chyd-ddatblygu’n ganolfan braf ar gyfer cyd-drafod, cyd-greu a chyd-joio wrth gyd-ddathlu. Mewn gair: cydymaddysgu: dysgu oddi wrth ein gilydd, am ein gilydd a gyda’n gilydd. Wrth droi rhan o’r ysgol yn dy fforddiadwy byddwn hefyd yn cyd-alluogi teulu ifanc i gael cartref fforddiadwy yn lleol. Cymdogaeth fyrlymus a chroesawgar yw cymdogaeth Cribyn a chredwn y bydd y fenter gyffrous hon yn ehangu a chryfhau ein clymau holl bwysig o gyd-berthyn.

Esiamplau o brosiectau llwyddiannus:

Canolfan Cymunedol Mynach

Cafodd Canolfan Cymunedol Mynach ei addasu a’i ddatblygu o fod yn gapel i fod yn ganolfan er budd y gymuned. Ail-agorodd ddiwedd haf 2021, ac ers hynny, mae wedi cynnal calendr eang o ddigwyddiadau cyson i’r gymuned. Ewch i’r dudalen Facebook..

Canolfan Hermon

Mae Canolfan Hermon yn esiampl arall o ddatblygiad cymunedol llwyddiannus yng Ngogledd Sir Benfro. Cafodd yr Ysgol ei ailddatblygu rhwng 2008 a 2013 yn dilyn ei chau gan y Cyngor Sir yn 2006. Mae’r hen ysgol a’i hestyniad ffrâm bren newydd yn cynnig y gofod delfrydol i bentrefi lleol ddod at ei gilydd a dathlu stori ryfeddol yr hyn y gall cymunedau bach, gwledig ei gyflawni wrth gydweithio. Ewch i’r dudalen Facebook. Ewch i’r wefan.

Cofrestrwch i’n Cylchlythyr

Tanysgrifio – Subscribe

* indicates required

Intuit Mailchimp