Agorodd Ysgol Cribyn ar y 23ain o Ebrill, 1877. Cymraeg oedd prif (os nad unig) iaith y plant ond Saesneg oedd iaith yr addysg. Parodd yr Ysgolfeistres gyntaf mater o fisoedd yn unig gan nad oedd hi’n medru gair o Gymraeg. Gwellodd pethe’n sylweddol pan ddaeth William Barrow Griffith yn brifathro yma yn 1895. Dan ei arweiniad tyfodd nifer y disgyblion i dros 100 a bu raid ychwanegu ystafell ddosbarth newydd at y ddwy wreiddiol.
Gyda Barrow Griffith hefyd y tyfodd gynta’r berthynas agos rhwng cynifer o’r prifathrawon a chymdogaeth Cribyn–perthynas a olygai nad rhywbeth i’w gyfyngu i amser a lle neilltuol oedd addysg. Gwelsant eu swydd yn Ysgol Cribyn yn sail ar gyfer ysgogi a chyfoethogi bywyd y gymdeithas gyfan. Er enghraifft, sefydlodd Barrow Griffith gôr meibion yn y pentre’ a chasglodd Ffos Davies (1921-27) ganeuon gwerin yr ardal yn ogystal â ffurfio a chynnal Cwmni Drama Cribyn, fel y gwnaeth ei olynydd, D. T. Williams (1928-1957).
Yn 2023 daeth llond capel ynghyd yn Nhroedyrhiw i gofio am Mr a Mrs Llewelyn –yr olaf o brifathrawon Cribyn i fyw yn Nhŷ’r Ysgol. Megis ei ragflaenwyr, nid oedd ffiniau ar sêl addysgol W D Llewelyn. Yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw wrth sefydlu Adran ac Aelwyd yr Urdd yn y pentre’ a chyfrannu’n greadigol at gymaint o weithgareddau’r fro cyflawnodd y gamp o lunio hanes y gymdogaeth a’i gyhoeddi dan y teitl Crynodeb o Hanes Cribyn ym 1971, sef canmlwyddiant yr ysgol. Nodwedd ganolog o brifathrawiaeth Mr Llewelyn oedd ei hoffter o gynnal cynifer o’i wersi yn yr allt a’r caeau cyfagos. Yn y ‘stafell ddosbarth’ eang i ryfeddu hon dysgodd ei ddisgyblion i barchu cyfoeth eu hamgylchedd naturiol yn ogystal â’u treftadaeth hanes, iaith a diwylliant.
Pan gaewyd yr ysgol bentre’ yn 2009, ffurfiwyd Cymdeithas Clotas gyda’r nod o gynnal ei weledigaeth a chynnal potensial yr ysgol yn ganolfan fyrlymus i’r gymdogaeth gyfan.