Cwestiynau Cyffredin

Mentrau Cydweithredol

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw menter gydweithredol (co-op)?
Mae mentrau cydweithredol yn rhoi rheolaeth i bobl dros bethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae unigolion, cymdeithasau a busnesau yn gallu prynu siârs er mwyn dod yn gydberchnogion ar y fenter. Mae gan fuddsoddwyr lais democrataidd yn y ffordd y mae eu cynllun yn rhedeg. Trwy fuddsoddi, mae pobol yn helpu i drawsnewid eu cymunedau.
Pam prynu Ysgol Cribyn yn fenter gydweithredol?
I wneud yn siŵr bod Ysgol Cribyn yn aros yn galon i’r gymuned. Mae Cymdeithas Budd Cymunedol Ysgol Cribyn eisiau sicrhau parhad yr adeilad fel lle i’r gymuned i ddod at ei gilydd i gyd-ddysgu, gyd-greu ac i gynnal ein diwylliant. Mi fydd yr ysgol yn ateb anghenion y gymuned leol ac yn dod a phobol ynghyd, trwy ddefnyddio’r lleoliad yn ganolbwynt cryfhau amgylchedd cynhaliol y gymdeithas.

Prynu Siârs

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Sut mae prynu siârs?
Trwy lenwi ein ffurflen prynu cyfranddaliadau. Mae modd llenwi’r ffurflen fuddsoddi naill ai ar-lein neu ar bapur. Gallwch ddod o hyd iddi yn y llyfryn y Cynnig Cyfranddaliadau (cysylltwch am gopi), ar ein tudalen Facebook neu’n gwefan.
Faint mae un siâr (cyfranddaliad) yn ei gostio?
Bydd un siâr yn costi £1. Yr isafswm y gallwch ei fuddsoddi yw £100, a’r uchafswm yw £25,000. Gallwn dderbyn unrhyw swm dros £100 hyd at £25,000.
Sut mae talu am gyfranddaliadau?

Gallwch dalu naill ai gyda siec yn daladwy i ‘Llanelli & District Credit Union Ltd,’

a’i hanfon at Ysgol Cribyn d/o, Uned 2, Bryn Salem, Felin-fach, Dyffryn Aeron, Ceredigion, SA48 8AE, neu drwy drosglwyddiad banc i:

Llanelli & District Credit Union Ltd,

Cod didoli 30-95-14,

Rhif cyfrif 00036705,

gan ddefnyddio 10343 ac yna llythrennau cyntaf eich enw a thri rhif olaf eich rhif ffôn yn gyfeirnod.

A allwn ni wneud un trosglwyddiad banc ar gyfer sawl cyfranddaliwr?
Os oes mwy nag un person yn eich cartref yn buddsoddi mewn cyfranddaliadau ar yr un pryd, gallwch wneud un trosglwyddiad banc os ydych yn dymuno. Os ydych yn talu am gyfranddaliadau ar ran rhywun sy’n byw mewn cyfeiriad gwahanol, bydd angen i chi wneud trosglwyddiad banc ar wahân fel bod cyfeirnod y taliad yn cyfateb i’w cyfeiriad nhw.

Prynu Siârs i Eraill

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

A allwn ni brynu cyfranddaliad yn enw mwy nag un person?
Gallwch. Gallwch brynu cyfranddaliadau yn enw mwy nag un person. Fodd bynnag, os y’ch chi’n buddsoddi mwy na £100 mae’n werth ystyried eu rhannu rhwng y bobl dan sylw. Fel yna fe fyddwch i gyd yn dod yn aelodau o’r Gymdeithas ac yn cael pleidlais unigol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Bydd hyn hefyd yn fanteisiol i’r Gymdeithas wrth geisio am grantiau wrth i rif yr aelodaeth ddangos cefnogaeth eang.
A allaf roi cyfranddaliadau yn anrheg?
Gallwch. Gallwch brynu cyfranddaliadau ar ran rhywun arall yn anrheg. Llenwch ffurflen unigol ar eu rhan. Os ydynt yn byw gyda chi (plentyn dros 16 oed, er enghraifft) gallwch wneud un trosglwyddiad banc ar gyfer cyfanswm buddsoddiad yr aelwyd. Os ydynt yn byw mewn cyfeiriad gwahanol, bydd angen i chi wneud trosglwyddiad banc ar wahân fel bod cyfeirnod y taliad yn cyfateb i’w cyfeiriad nhw.
A allaf brynu cyfranddaliadau i blentyn?
Gallwch. Llenwch y meysydd perthnasol ar y ffurflen fuddsoddi. Ni fyddant yn aelodau llawn ac ni fyddant yn gallu pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nes eu bod yn 16 oed.

Pwy All Brynu Siârs?

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

A allaf brynu cyfranddaliadau yn enw cwmni, mudiad neu sefydliad?
Gallwch. Cwblhewch yr adran berthnasol wrth lenwi’r ffurflen fuddsoddi.
A yw’r cynnig cyfranddaliadau ar gyfer pobl leol yn unig?
Mae’r cynnig cyfranddaliadau ar gyfer pawb. Mi fydd y cynnig cyfranddaliadau yn apelio at bobl leol a phobl o fannau eraill sy’n credu yng nghenhadaeth gymdeithasol a ieithyddol Ysgol Cribyn ac eisiau cefnogi’r achos. Ry’ ni’n awyddus i dderbyn buddsoddiad a chefnogaeth gan bobl ledled Cymru a’r byd!
A allaf brynu cyfranddaliadau os wyf yn byw y tu allan i Gymru?
Gallwch. Ry’ ni’n croesawu cefnogaeth gan gyfranddalwyr o bob cwr o’r byd! Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu’r trosglwyddiad banc mewn GBP / Sterling er mwyn i ni dderbyn gwerth llawn y cyfranddaliadau a brynwyd.
A allaf brynu cyfranddaliadau fwy nag unwaith?
Byddwch yn gallu prynu cyfranddaliadau fwy nag unwaith yn ystod y 6 wythnos y cynnig cyfranddaliadau. Mae’r cynnig cyfranddaliadau cyfredol hwn yn cau ar 5ed o Fai 2024.

Y Gwaith Papur

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Siwt ma’ gwybod i ni wedi derbyn eich ffurflen fuddsoddi?

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen fuddsoddi ar-lein byddwch yn derbyn ebost cadarnhau gyda chrynodeb o’ch manylion. Os nad ydych wedi ei dderbyn, edrychwch yn eich ffolder sbam. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni ar ysgolcribyn@gmail.com. Anfonir tystysgrifau cyfranddaliadau trwy’r post neu ebost at bob buddsoddwr.

Pwy fydd yn gwybod faint o arian rwy’n ei fuddsoddi?
Dim ond Trysorydd y Grŵp Llywio a’r Swyddog Datblygu fydd yn gweld faint o gyfranddaliadau y bydd unrhyw fuddsoddwr yn ei gyfrannu. Ni fydd manylion cyfranddaliadau unigol yn wybodaeth gyhoeddus.

Manylion Eraill

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Oes modd cael ad-daliad o 30% trwy HMRC?
Falle bydd modd i drethdalwyr gael ad-daliad 30% ar gost y cyfranddaliadau oddi wrth HMRC dan y cynllun Enterprise Investment Scheme (EIS). Ond mater i HMRC yw caniatau hynny neu beidio. Er bod y Gymdeithas wedi cymryd camau i sicrhau nad oes unrhyw beth yn y cynnig cyfranddaliadau hwn, nac yn y ffordd y bydd y cyllid ddaw i law yn cael ei ddefnyddio yn groes i reolau EIS (ac wedi ceisio sicrwydd ymlaen llaw gan HMRC ar y sail honno) nid yw’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant gan fuddsoddwyr unigol i adennill treth mewn perthynas â’u buddsoddiadau. At hynny, eu cyfrifoldeb unigol hwy fydd sicrhau cywirdeb gwybodaeth am statws treth a fydd wedi’i darparu ganddynt wrth fuddsoddi.
A fydd hi’n bosib cael fy arian yn ôl ar ryw adeg?
Mae cyfranddaliadau cymunedol yn gyfalaf y gellir eu tynnu’n ôl – ond nid cyn diwedd 5 mlynedd cynta’r fenter. Wedi hynny bydd modd rhybuddio’r Gymdeithas o’r dymuniad i dynnu’r buddsoddiad yn ol. Mae rhagor o fanylion i weld ym mhennod 11, cymalau VI a VII y Cynnig Cyfranddaliadau.
Maes o law, a allaf adael cyfranddaliadau i’m teulu yn fy ewyllys?
Gallwch. Bydd angen i’r Gymdeithas gofrestru’r newid enw.
A allaf werthu neu drosglwyddo cyfranddaliadau i rywun arall? Beth fyddai eu gwerth?
Na. Dim ond y Gymdeithas all brynu’ch cyfranddaliadau yn ôl, yn unol â’r canllawiau tynnu’n ôl. Dim ond am y pris a dalwyd amdanynt y cânt eu prynu’n ôl.
Pa sicrwydd sydd i bobl sy’n prynu cyfranddaliadau?
Nid yw’r Gymdeithas yn cynnig sicrwydd i’r rhai sy’n prynu cyfranddaliadau. Fodd bynnag, pe bai’r fenter yn cau ei drysau, byddai’n bosibl gwerthu’r asedau a dychwelyd cyfalaf i aelodau hyd at werth y buddsoddiadau gwreiddiol, ar ôl i’r holl ddyledion eraill gael eu talu.

Prynu Ysgol Cribyn

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw’r targed codi arian?
Rydym yn anelu at godi £175,000 trwy’r Cynnig i Brynu Cyfranddaliadau, sy’n agored i’r gymuned ac i’r cyhoedd yn gyffredinol. Fe fyddwn yn defnyddio’r arian a godir, ochr yn ochr â grantiau, i brynu ac adnewyddu Ysgol Cribyn.
Beth fydd yn digwydd os na werthir digon o gyfranddaliadau?
Mae’n bosib y byddwn yn cynnal ymgyrch cyllido arall i geisio cyrraedd ein targed. Os y’n ni’n aflwyddiannus unwaith eto, mi fydd rhaid i’r Gymdeithas ail-ystyried y prosiect o ran ei hyd a’i led a’i uchelgais. Os na fydd modd i’r Gymdeithas brynu’r adeilad, ad-delir yr holl gyfranddaliadau yn net o’r costau fydd wedi codi.
Pryd fydd Ysgol Cribyn yn ailagor?
Gyda gwynt teg, rydym yn gobeithio bydd modd i ni sicrhau’r pryniant ddechrau haf 2024, gan anelu at adnewyddu’r adeilad dros weddill y flwyddyn ac ailagor tua gwanwyn 2025.
Siwt fyddai’n clywed am gynnydd y fenter?

Ry’ ni’n rhannu’r newyddion diweddaraf ar Facebook, Instagram a’n cylchlythyr ebost Y Cribynian (tanysgrifiwch drwy ysgolcribyn@gmail.com).

Cwestiynau Eraill

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

A oes pris terfynol wedi’i gytuno ar gyfer prynu’r eiddo?

Diwedd Ionawr 2024 gosododd cabinet Cyngor Sir Ceredigion yr eiddo ar werth i gymdogaeth Cribyn am bris o £175,000. Rhoddwyd cyfnod o 6 mis er cadarnhau’r bwriad a’r gallu i brynu. Wedi’r cyfnod hynny mi fydd gan yr awdurdod yr opsiwn o gynnig yr ysgol ar werth ar y farchnad agored.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddog Datblygu ar 07975616882 neu trwy ebost: ysgolcribyn@gmail.com.