Y Pum Cam Datblygu

CAM 1 CREU CYMDEITHAS FUDD GYMUNEDOL YSGOL CRIBYN cyf.

Wrth greu’r cwmni cydweithredol hwn mi fydd cyfle i ni gyd brynu cyfranddaliadau a thrwy hynny ddod yn gyd-berchnogion arno. Yn wahanol i gwmni preifat – cwmni dan berchnogaeth criw bach dethol yn unig – mi fyddwn i gyd yn berchen ar y cwmni hwn ac yn elwa ohono – nid o ran arian yn ein pocedi ond o ran y daioni corff a meddwl a ddaw trwy ddatblygu’r ysgol yn ganolfan hwylus, hyblyg, deniadol a chroesawgar – lle delfrydol ar gyfer gwneud yr hyn a wna pob cymdeithas iach, sef cyd-gwrdd, cydweithio a chyd-joio.

CAM 2 ENNILL CEFNOGAETH Y LOTERI ac ati

Os codwn ni swm da wrth greu Cymdeithas Ysgol Cribyn cyf. mi fyddwn yn gallu dweud yn hyderus wrth bobol yr arian cyhoeddus (y Loteri, llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ac ati) fod yna gefnogaeth gref i brosiect yr ysgol yma, yng Nghribyn a’r cyffiniau. Ac mi fydd angen eu cefnogaeth, hefyd am y bydd raid i ni nid yn unig brynu’r safle oddi wrth y cyngor sir ond hefyd addasu’r adeilad i’w gneud yn ganolfan ddeniadol a defnyddiol.

CAM 3 PRYNU’R YSGOL

Nawr fod y Cyngor Sir wedi dweud nad yw’n fwriad ganddynt ddefnyddio’r ysgol yn y dyfodol mae Cymdeithas Clotas, ar ran cymdogaeth Cribyn, wedi datgan ein hawydd i’r ased gwerthfawr hwn sefyll yn ased i’r gymdeithas gyfan. Yn ei thro, mae’r sir wedi cadarnhau eu bod yn awyddus i weld yr ysgol yn cael ei brynu a’i ddatblygu gan y pentre’. Mi fydd creu Cymdeithas Ysgol Cribyn cyf. yn rhoi sail gyfreithiol i ni gyd-berchen yr ysgol. Mi fydd hefyd yn cloi’r ased fel na fydd modd i’r ysgol fod o fudd i neb heblaw’r gymdeithas gyfan.

CAM 4 ADFER AC ADDASU

Er mwyn helpu teulu ifanc lleol i gael cartref fforddadwy, rhan o nod y cynllun yw troi’r rhan o’r ysgol a fu gynt yn Dŷ’r Ysgol (cartref Mr a Mrs Llewelyn) – nôl yn dŷ deulawr. Mi fydd y datblygiad yma hefyd yn fanteisiol o ran costau cynnal y safle wrth i rent y tŷ gyfrannu at gostau cynnal-a-chadw y brif adeilad, sef y rhan a ddaw’n neuadd gymunedol hyblyg a sylweddol ei maint.

CAM 5 AIL-AGOR YSGOL CRIBYN!

CAM 5 AIL-AGOR YSGOL CRIBYN!